SportsAid Cymru Wales is a unique charity dedicated to helping talented young sportspeople in Wales achieve success by easing some of the financial barriers
which can crush their dreams.
Since its formation, SportsAid Cymru Wales has distributed nearly £1.5 million in grants to qualifying athletes in the early stages of their careers in
almost 30 different sports.
Most grant recipients say it is not just the financial support that gives them a boost: They say the recognition and encouragement represented by a SportsAid
Cymru Wales grant helps fire their commitment to perform to the best of their abilities.
Many top sportspeople who have brought pride to Wales on a world stage, including hurdler Colin Jackson, cyclists Nicole Cooke, Geraint Thomas and Eli
Barker, sprinter Jamie Baulch, paralympian David Roberts MBE, sailor Hannah Mills and taekwando champion Jade Jones, were helped by SportsAid when they were relatively unknown to the public. All
are keen supporters of the charity.
If you can help us to help our potential stars of the future – we’d be delighted to hear from you! Click on the Contact Us tab
above.
-----
SportsAid
Cymru Wales - buddsoddi
yn nyfodol
ein chwaraeon
Mae SportsAid Cymru Wales yn elusen unigryw sy’n
ymrwymedig i helpu athletwyr ifanc dawnus yng Nghymru lwyddo drwy leihau rhai o’r rhwystrau ariannol a all chwalu eu breuddwydion.
Ers iddi gael ei sefydlu, mae SportsAid Cymru Wales
wedi dosbarthu bron i £1.5 miliwn mewn grantiau i athletwyr cymwys sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd mewn bron i 30 o chwaraeon gwahanol.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n derbyn grant yn dweud bod
y gefnogaeth yn fwy nag arian: Maent yn dweud bod y gydnabyddiaeth a’r anogaeth sy’n dod gyda grant SportsAid Cymru Wales yn eu tanio i berfformio hyd eithaf eu gallu.
Cafodd llawer o athletwyr o’r radd flaenaf sydd wedi
dod â balchder i Gymru ar lwyfan byd-eang, gan gynnwys y neidiwr clwydi Colin Jackson, y beicwyr Nicole Cooke, Geraint Thomas ac Eli Barker, y gwibiwr Jamie Baulch, y paralympiad David Roberts MBE,
yr hwyliwr Hannah Mills a’r pencampwr taekwando Jade Jones, eu helpu gan SportsAid pan nad oedd llawer o bobl wedi clywed amdanynt. Mae pob un o’r rhain ymysg cefnogwyr yr
elusen.
Os gallwch chi ein helpu ni i helpu sêr y dyfodol,
byddai’n wych clywed gennych! Cliciwch ar y tab Cysylltu â Ni uchod